Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
Rhaglen hyfforddi a chymorth cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru yw Gweithio ar Les. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen o amgylch eich nodau gyrfa a sut y gallwch eu cyflawni.
Oherwydd Coronavirus, bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar-lein neu dros y ffôn nes bydd rhybudd pellach.
Mae Gweithio ar Les yn agored i bobl sydd yn:
Os ydych chi'n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) sy'n gweithio gyda disgyblion dros 16 oed, rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant trwy ein partneriaid The Legacy Group.
Bydd Gweithio ar Les yn eich cefnogi i:
Bydd ein cynghorwyr cyflogaeth arbenigol yn siarad â chi i drafod y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Byddwch chi'n cael sesiynau rheolaidd gyda'ch cynghorydd ac efallai cael cynnig sesiynau hyfforddi grŵp.
Ar hyn o bryd bydd sesiynau dros y ffôn ac ar-lein. Gallwn ddarparu addasiadau os bydd eu hangen arnoch, fel dehongliad fideo Iaith Arwyddion Prydain neu sgwrs fyw.
Rydym am helpu busnesau lleol i gyflogi mwy o bobl anabl. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.